Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

 

Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

Dydd Mercher 4 Mawrth 2015

 

1.    Mae’r papur hwn yn ymateb i e-bost y Pwyllgor ar 21 Ionawr a oedd yn nodi pynciau arbennig a gwybodaeth yr hoffai ei chael ymlaen llaw.

 

Polisi Ynni

 

2.    Mae Cynllun Cyflawni Ynni Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2014 yn ddisgrifio ein hymrwymiad i ganolbwyntio a blaenoriaethu ein hymdrech mewn tri maes allweddol: darparu arweinyddiaeth; cynyddu i’r eithaf y budd i Gymru o ran swyddi a budd economaidd ehangach; a gweithredu yn awr er budd dyfodol ynni hirdymor Cymru.

 

3.    Cydnabyddir bod ynni’r môr yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at gyrraedd ein nodau o ran ynni adnewyddadwy a chan hynny fe’i nodwyd fel blaenoriaeth ar gyfer defnyddio’r Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru yn 2014-2020. Gan weithio gydag Ystâd y Goron rydym wedi nodi dwy ardal profi ac arddangos ar gyfer ynni’r llanw ac ynni’r tonnau yn nyfroedd Cymru. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Ystâd y Goron mai Wave Hub a Menter Môn fydd y rheolwyr trydydd parti ar gyfer yr ardaloedd; byddant hwy’n gyfrifol am reoli safleoedd, marchnata a hyrwyddo’r ardaloedd, gweithgarwch paratoadol ac is-osod ardaloedd i ddatblygwyr.

 

4.    Eleni, byddwn hefyd yn partneru gyda Llywodraeth yr Alban ac Ystâd y Goron i gyd-ariannu partneriaeth ymchwil ledled y DU gyfan. Bydd y dystiolaeth a gesglir ar gael yn gyhoeddus a bydd yn lleihau risgiau a beichiau ar ddatblygwyr a chyrff rheoleiddio yng Nghymru, gan ei gwneud yn bosibl cael penderfyniadau amserol ar geisiadau. Byddwn yn parhau i weithio gydag Ystâd y Goron i hyrwyddo ardaloedd arddangos ar gyfer dyfeisiau morol ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddefnyddio’r Cronfeydd Strwythurol i gefnogi’r sector newydd ar gyfer Ynni’r Môr yng Nghymru.

 

5.    Rydym hefyd wedi gweithio’n helaeth gyda datblygwyr ynn gwynt i gynyddu i’r eithaf y budd i fusnesau a chymunedau Cymru. Rydym wedi datblygu cynllun cyffredinol ar gyfer datblygiadau ynni gwynt yng nghanolbarth Cymru, gan gynnwys dadansoddiad o anghenion y gweithlu a fydd, yn amodol ar gydsyniad i brosiectau ynni gwynt, yn arwain at gynllun hyfforddi a datblygu ar gyfer busnesau lleol.

 

6.    Rwy’n ymrwymedig i gyflawni budd i’r gymuned, ac yng ngwanwyn 2014 fe lansion ni Gofrestr o Fuddiannau Economaidd a Chymunedol sydd, yn ei blwyddyn gyntaf, yn canolbwyntio ar weithrediadau ynni gwynt ar y tir. Mae’r gofrestr yn rhoi gwybodaeth am y budd a geir o gynlluniau ynni adnewyddadwy sydd wedi cael cydsyniad ac sy’n weithredol yng Nghymru, ac mae’n dangos sut y mae’r budd yn cael ei gyflawni. Byddwn yn ehangu’r Gofrestr er mwyn adrodd ar ystod eang o ddata economaidd, ac i gwmpasu ystod fwy o dechnolegau ynni adnewyddadwy.

 

7.    Rydym hefyd wedi ymrwymo £5m o’n Dyraniadau Trafodiadau Ariannol i sefydlu ein Cronfa Twf Gwyrdd yn 2015/16, a fydd yn y blynyddoedd sydd i ddod yn buddsoddi mewn prosiectau sy’n gwella effeithlonrwydd ynni ac yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Eleni, byddwn yn datblygu’r arlwy ariannol ac yn sefydlu’r gronfa, a byddwn yn adnabod ac yn datblygu prosiectau cymwys i gyflwr sy’n golygu y gellir buddsoddi ynddynt. Ar 9 Chwefror cyhoeddodd ein Grŵp Llywio Twf Gwyrdd Astudiaeth Sylfaenol o Dwf Gwyrdd. Prif ddiben yr ymchwil hon oedd profi’r diffiniad o dwf gwyrdd a ddatblygwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.

 

Effeithlonrwydd Ynni

8.    Byddaf yn parhau i fynd i’r afael â thlodi tanwydd trwy fuddsoddi yn ein rhaglen effeithlonrwydd ynni lwyddiannus a yddaf yn nodi’r camau gweithredu pellach i’w cymryd trwy ddatblygu strategaeth effeithlonrwydd ynni. Bydd y strategaeth nid yn unig yn nodi camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru, ond bydd hefyd yn canolbwyntio ar annog a chymell camau gweithredu gan eraill lle y bo’n briodol.

 

9.    Mae ein rhaglen Effeithlonrwydd Ynni yn cynnwys cynlluniau sy’n seiliedig ar alw ac ar ardaloedd ac mae hyn yn ein galluogi i gynnig cymorth i’r aelwydydd tlotaf ledled Cymru ni waeth pa un a ydynt yn byw yn yr ardaloedd mwyaf amddifadus ai peidio. Eleni rydym yn gwneud buddsoddiad sylweddol o £70 miliwn yn y rhaglen er gwaethaf toriadau ehangach i gyllidebau Llywodraeth Cymru.

 

10.Rhwng mis Ebrill 2011 a mis Mawrth 2014, mae Nyth wedi rhoi cyngor a chymorth i dros 56,000 o aelwydydd, gyda thros 13,400 o’r rhain yn cael gwelliannau rhad-ac-am-ddim o ran ynni’r cartref. Amcangyfrifir bod y gwelliannau hyn yn dwyn arbedion biliau ynni  o £475 yr aelwyd y flwyddyn ar gyfartaledd, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i aelwydydd incwm isel. Mae’r rhaglen yn cael ei gwerthuso’n annibynnol, ac rwy’n disgwyl cyhoeddi adroddiad ar y gwerthusiad cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Bydd canfyddiadau’r adroddiad hwn yn helpu i lywio datblygiad unrhyw gynllun tlodi tanwydd sy’n seiliedig ar y galw yn y dyfodol.

 

11.Mae rhaglen ERDF bresennol Arbed 2 yn rhedeg o fis Ebrill 2012 tan fis Mehefin 2015. Mae pob cartref a gafodd ei wella wedi cael asesiad ynni ar gyfer y ‘tŷ cyfan’ a mesurau effeithlonrwydd megis Inswleiddio Waliau Allanol, boeleri newydd a rheolyddion gwresogi. Mae Arbed 2 wedi cwblhau, neu mae wrthi’n cyflawni, 32 o gynlluniau mewn 19 o’r 22 awdurdod lleol.

 

12.Mae rhaglen Arbed 2 hefyd yn cyfrannu at ddileu tlodi tanwydd trwy dargedu’r cartrefi mwyaf aneffeithlon o ran ynni yn yr ardaloedd â’r incwm isaf, a thrwy ddarparu cyfleoedd economaidd a chyflogaeth yn yr ardal leol trwy MBChau lleol. Byddwn yn cyflwyno cynnig i ddenu cyllid o’r cylch nesaf o raglenni’r UE i gefnogi’r broses o gyflawni cynlluniau sy’n seiliedig ar ardaloedd yn y dyfodol. 

 

13.Ochr yn ochr â’r buddsoddiad ECO ychwanegol yn Nyth ac Arbed, rydym wedi trefnu bod cyllid grant ar gael i awdurdodau lleol er mwyn iddynt gyflawni eu cynlluniau effeithlonrwydd ynni lleol eu hunain. Mae’r cynlluniau hyn yn targedu cymunedau amddifadus, yn ysgogi buddsoddiadau trwy’r ymrwymiad cwmnïau ynni ac yn cefnogi rhaglenni gwaith ehangach yn eu hardal gan gynnwys y rhai a gyflawnir trwy Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. 

 

Rheoliadau Adeiladu

14. Daeth y rheoliadau diwygio i gyflwyno newidiadau i Ran L o’r Rheoliadau Adeiladu i rym ar 31 Gorffennaf 2014. Roedd y newidiadau hyn yn golygu y byddai anheddau newydd 8% ac anheddau annomestig 20% yn fwy effeithlon o ran ynni o’i gymharu â Rheoliadau Adeiladu 2010 a hefyd yn cynnal ein nod o leihau allyriadau carbon yng Nghymru trwy gyflwyno safonau effeithlonrwydd ynni uwch ar gyfer adeiladau newydd. Byddwn yn adolygu Rhan L eto yn 2016, ac mae’r adolygiad wedi’i fwriadu i fod y cam nesaf wrth symud ymlaen tuag at darged yr UE o adeiladau sydd bron yn ddi-ynni erbyn 2019 (adeiladau cyhoeddus newydd) a 2021 (pob adeilad newydd).

 

15. Fe wnaed gwelliannau sylweddol hefyd o ran y modd yr ydym yn rheoleiddio gwaith adeiladu mewn adeiladau presennol, gan ei bod yn ofynnol i unrhyw estyniadau neu addasiadau integredig i adeiladau gyrraedd safonau gwell o ran effeithlonrwydd y ffabrig, gan gael eu hadeiladu o ddeunyddiau sydd yr un mor effeithlon o safbwynt thermol ag unrhyw gartref newydd yng Nghymru.

 

16. Fe gyflwynodd diwygiadau pellach ddull graddol o gyflwyno systemau chwistrellu awtomatig ar gyfer tân mewn adeiladau preswyl, a’r rheiny’n gymwys i ddechrau i adeiladau risg uchel megis cartrefi gofal, neuaddau preswyl newydd ac addasedig ar gyfer myfyrwyr, tai llety a rhai hostelau o 30 Ebrill 2014. O fis Ionawr 2016 bydd y gofynion yn gymwys i’r holl anheddau newydd ac addasedig.

 

17.Mae’r rhan fwyaf o’r swyddogaethau gweithredol yn Neddf Adeiladu 1984, gan gynnwys y grym i wneud rheoliadau adeiladu, wedi’u datganoli i Weinidogion Cymru ond nid yw swyddogaethau sy’n ymwneud ag adeiladau ynni a eithrir neu sydd i’w cyflawni gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel awdurdod y Goron dan y Ddeddf Adeiladu wedi’u datganoli. Argymhellodd adroddiad Rhan 2 Comisiwn Silk ar ddatganoli yng Nghymru yn 2014 y dylai swyddogaethau gweddillol gael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru. Bydd yr argymhelliad hwn ac argymhellion eraill yn yr adroddiad yn cael eu hystyried unwaith y bydd ymateb Llywodraeth y DU wedi’i gyhoeddi.

 

18.Rhagwelir y bydd polisi a thargedau o ran rheoliadau adeiladu yng Nghymru’n dilyn llwybr gwahanol ac ymhen 10 mlynedd y gallai rheoliadau adeiladu yng Nghymru fod yn wahanol iawn i’r rhai yn Lloegr. Er mwyn cefnogi ein dyheadau byddwn yn parhau i ddatblygu rheoliadau mewn ffordd sy’n cydnabod yr ystod o sgiliau ac adnoddau sydd ar gael ar draws y diwydiant adeiladu yng Nghymru.

 

Y Newid yn yr Hinsawdd

19. Yn dilyn y Datganiad Llafar a wnes fis Hydref diwethaf, rydym bellach yn canolbwyntio ar y camau gweithredu y gallwn eu cymryd er mwyn cyflawni mewn perthynas â’r blaenoriaethau (Dileu  risg i’r hinsawdd, Lleihau allyriadau; Cynyddu Effeithlonrwydd Ynni, a Rhoi Hwb i Economi Carbon Isel).

 

20. Fodd bynnag, mae angen inni fod yn glir nad yw hyn yn ymwneud â chamau gweithredu gan y Llywodraeth yn unig – er mwyn inni allu gweithredu’n llwyddiannus ar y newid yn yr hinsawdd bydd yn rhaid wrth gydymdrechion gan bob sector. Fodd bynnag, mae momentwm sylweddol ar gyfer newid yn bodoli ledled Cymru ac wrth gwrs yn rhyngwladol yn y cyfnod cyn Cynhadledd Paris ym mis Rhagfyr 2015. Ar 4 Mawrth byddaf yn gwneud Datganiad Llafar, yn amlygu sut yr ydym yn cyflawni camau gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd.

 

 

Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Adolygu Llifogydd Arfordirol Cymru gan CNC

21. Ar 5 Ionawr 2015 cyhoeddodd CNC y Cynllun Cyflawni Arfordirol i weithredu’r 47 o argymhellion a oedd wedi’u cynnwys yn yr Adolygiad o Lifogydd Arfordirol. Mae’r prosiect cydweithredol hwn yn cynnwys yr holl awdurdodau rheoli perygl o amgylch Cymru.

 

22. Mae’r Cynllun Cyflawni’n nodi sut y gellir canlyn arni â’r argymhellion gan gynnwys arweinwyr y cytunwyd arnynt, allbynnau a fydd yn cael eu cyflawni ac amserlenni disgwyliedig. Rydym eisoes yn gweithio’n galed i weithredu’r argymhellion a hyd yma, mae 7 wedi’u cyflawni, 33 ar waith a 7 heb gychwyn eto.

Cynlluniau Rheoli Traethlin

23. Cafodd pob un o’r pedwar Cynllun Rheoli Traethlin ar gyfer arfordir Cymru eu cymeradwyo yn 2014. Mae Cynlluniau Rheoli Traethlin yn bwysig o ran helpu i gyfeirio ein buddsoddiadau yn y dyfodol a byddant yn dylanwadu ar y modd yr ydym yn paratoi ein cymunedau arfordirol yn erbyn effeithiau codiad yn lefel y môr a’r newid yn yr hinsawdd. Er eu bod yn anstatudol, mae’r ‘dogfennau byw’ hyn yn rhan o’n strategaeth llifogydd ac arfordirol ac maent yn cyflawni rôl bwysig mewn gwaith blaengynllunio.

 

24. Ysgrifennodd swyddogion at yr holl Brif Swyddogion Cynllunio a Swyddogion Llifogydd Arweiniol yr holl awdurdodau lleol ym mis Ionawr, gan eu hysbysu bod Cynlluniau Rheoli Traethlin wedi cael eu cymeradwyo ac y dylai penderfyniadau cynllunio ar hyd yr arfordir roi sylw i’r cynlluniau hyn.

 

Cynllun Adfer Natur

25. Yr ymgynghoriad ar Gynllun Adfer Natur Cymru oedd y cam cyntaf gan Lywodraeth Cymru o ran diffinio’r cyfeiriad teithio ar gyfer camau gweithredu ar fioamrywiaeth yng Nghymru, yng nghyd-destun ein hymrwymiad i sefydlu dull integredig o reoli adnoddau naturiol, a chyflawni ein hymrwymiadau rhyngwladol dan y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) a thargedau Aichi a’r UE dros y pum mlynedd nesaf.

 

26. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 3 Rhagfyr 2014 a bûm yn un o gyfarfodydd Bwrdd Strategaeth Bioamrywiaeth Cymru yn ddiweddar i drafod yr ymatebion i’r ymgynghoriad a’r camau nesaf. O ganlyniad, rydym yn gweithio gyda'r Bwrdd i gynhyrchu cynllun gweithredu a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu'r camau gweithredu strategol a nodwyd yn yr ymgynghoriad a fydd yn ategu cyflwyniad y fframwaith cyfreithiol ar gyfer gweithredu drwy'r Mesur yr Amgylchedd.

 

27. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiad i gael strategaeth bioamrywiaeth a chynllun gweithredu yn ei le erbyn diwedd 2015, a byddaf yn gwneud datganiad ysgrifenedig yn amlinellu'r camau nesaf yn llawn cyn bo hir.

 

 

 

Y Gronfa Natur

 

28. Fe gyhoeddais restr derfynol y prosiectau a fydd yn cael cymorth o’r Gronfa Natur ym mis Tachwedd 2014. Bydd cyfanswm o 19 prosiect arloesol a chydweithredol yn cael cyllid ar draws y saith Ardal Weithredu Byd Natur. Bydd y prosiectau hyn yn darparu sawl budd trwy amrywiaeth o weithgareddau a nodir gan y Gronfa, gan gynnwys; rheoli ucheldir ar raddfa’r dirwedd; adfer cynefinoedd a sefydlu mecanweithiau i greu cyfleoedd ar gyfer twf gwyrdd i ffermwyr a thirfeddianwyr.

 

29. Yn ychwanegol at y prosiectau unigol hyn, mae’r Gronfa Natur hefyd yn buddsoddi’n uniongyrchol mewn prosiect i greu 30ha o goetir brodorol yng Nghwm Llynfi ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd y prosiect yn creu coetir ar hen safle glofa a golchdy a thrwy wneud hynny mae’n amcanu at gynyddu gwerth y tir a darparu sawl budd ehangach ar gyfer y cyhoedd a’r gymuned gyfagos.

 

 

30. Mae gwaith wedi dechrau bellach ar yr holl brosiectau a gyllidir gan y Gronfa Natur; caiff gwybodaeth am gynnydd pan fydd ar gael ei chyfleu i’n rhanddeiliaid trwy’r Bwletin Newyddion Adrannol ac ar ein gwefan. Mae cynlluniau’n cael eu cwblhau yn awr ar gyfer monitro a gwerthuso’r Gronfa yn ei chyfanrwydd a fydd yn tynnu ar y gwaith monitro a gwerthuso unigol a wnaed gan bob prosiect.   

 

 

31. Mae’r prosiectau’n amcanu at gwblhau cymaint â phosibl o’r gweithgareddau ‘ar y llawr’ erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon; fodd bynnag, oherwydd yr oedi cyn cyhoeddi’r prosiectau terfynol a fyddai’n cael cymorth ar ddiwedd 2014, byddwn yn gweithio gyda’r prosiectau tan ar ôl dechrau’r flwyddyn ariannol nesaf i sicrhau y gellir cyflawni cyfanrwydd y prosiectau fel a fwriadwyd.

 

32. Mae manylion y taliadau rhagamcanol o’r Gronfa i bob prosiect wedi’u nodi yn Atodiad A.

 

Coedwigaeth

33. Mae’r cynigion sy’n gysylltiedig â choedwigaeth yn y cais am gyllid dan y Rhaglen Datblygu Gwledig (2014-2020) yn cynnwys cynnig am gymorth ariannol i alluogi coetiroedd i gael adferiad o effeithiau Phytopthora ramorum. Mae’r cynigion hyn yn cael eu negodi ar hyn o bryd gyda’r Comisiwn Ewropeaidd.

 

34. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda CNC a’r sector preifat ar hyn o bryd ar raglen ar gyfer adferiad o P ramorum. Yn dilyn gweithdy (a oedd yn cynnwys cynrychiolaeth eang o blith rhanddeiliaid) a chyfarfodydd dilynol, mae 24 argymhelliad wedi cael eu gwneud, y mae rhai ohonynt eisoes yn cael eu paratoi.

 

35. Mae’r argymhellion yn cynnwys materion megis blaenoriaethau strategol, ardystio a rheoleiddio (h.y. ystyried rheoliadau a phrosesau cwympo coed mewn perthynas â choed claf), gweithrediadau cynaeafu a marchnata, effeithiau cymdeithasol ac economaidd, ailstocio ac amrywiaeth rhywogaethau a materion amgylcheddol ehangach (megis gweithio gyda phlanhigfeydd coed a’r diwydiant garddwriaethol er mwyn cyflwyno system i ddarparu gwybodaeth well am darddiad planhigion a glasbrennau o blanhigfeydd).

 

36. Mae llawer o’r argymhellion yn y rhaglen ar gyfer adferiad yn ddibynnol ar gymorth ariannol trwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig ac unwaith y bydd cadarnhad wedi dod i law yn hyn o beth bydd cais ffurfiol yn cael ei gyflwyno i mi ar gyfer penderfyniad ynghylch eu gweithredu.

 

Y Môr a Physgodfeydd

 

37. Fy mlaenoriaethau yw cynyddu i’r eithaf y budd economaidd a chymdeithasol i Gymru o ganlyniad i ddefnyddio ein hadnoddau morol, a sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn modd cynaliadwy er mwyn peidio â pheryglu argaeledd yr adnoddau hynny ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

38. Mae angen i’r broses o gyrraedd y nodau trosfwaol hyn gael ei hystyried yng nghyd-destun y rhwymedigaethau statudol Ewropeaidd y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru eu cyflawni. Y ddwy bwysicaf yw gweithredu’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin a Chyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol. Mae’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin a Chyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol yn cynnwys targedau sy’n gryn her y mae’n rhaid inni eu cyrraedd.

 

39. Bydd y gwaith o gyflawni’r Cynllun Morol Cenedlaethol drafft cyntaf ar gyfer Cymru yn cefnogi’r rhain ac rwy’n dal i fod yn ymrwymedig i gyflawni Cynllun Morol Cenedlaethol ar gyfer Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Bydd y cynllun yn seiliedig ar ragolygon dros 20 mlynedd i ddechrau er mwyn datblygu’r manylion, gan gynnwys dyfroedd glannau a dyfroedd môr mawr Cymru. Bydd yn egluro amcanion a blaenoriaethau morol, gan ddarparu cyfarwyddyd tuag at benderfyniadau cyson, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer defnyddio ein moroedd yn gynaliadwy.

 

40. Fe nododd y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer y Môr a Physgodfeydd dargedau a oedd yn her ar gyfer twf y sector Dyframaeth yng Nghymru. Rydym yn ystyried bod datblygu dyframaeth yn elfen bwysig o dwf glas yng Nghymru. Byddai’r targedau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r diwydiant ddyblu cynhyrchiant i bob pwrpas o’i gymharu â lefelau 2011 yn cadw Cymru fel y prif gynhyrchydd cregynbysgod a ffermir yn y DU. Byddaf yn amlinellu Strategaeth Ddyframaeth a ddatblygwyd ar y cyd â’r diwydiant a sefydliadau ymchwil eleni, i gefnogi’r targed hwnnw ac i sicrhau mwy o fudd economaidd hirdymor i Gymru.

 

41. Bydd Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop yn darparu platfform o fuddsoddiad yn y sectorau pysgodfeydd a dyframaeth yng Nghymru, gan sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r diwydiant. Bydd Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop hefyd yn helpu i weithredu’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin a sicrhau bod dyfodol rheoli pysgodfeydd yn cael ei danategu gan dystiolaeth briodol.

 

42. Rydym yn ymrwymedig i gyfrannu at rwydwaith ecolegol-gydlynol o ardaloedd morol gwarchodedig ac i sicrhau bod ein safleoedd yn cael eu rheoli’n dda erbyn diwedd 2016. Rydym yn gweithio i wneud mwy i gryfhau’r warchodaeth ar gyfer adar o fewn y rhwydwaith ac rydym yn paratoi i weithio i adnabod ardaloedd ar gyfer llamidyddion. Byddwn yn trafod y gwaith hwn gyda rhanddeiliaid yn y dyfodol agos.

 

 

 

Gwahardd rhwydi drifft

 

43. Rydym wedi gwneud cyfraniad pwysig at ymateb y DU i gynnig y Comisiwn Ewropeaidd i wahardd y defnydd o unrhyw fath o rwyd ddrifft yn nyfroedd yr UE. Roedd y gwaharddiad hwn wedi’i fwriadu i fod yn gymwys o 1 Ionawr 2015, yn amodol ar gytundeb gydag Aelod-wladwriaethau a Senedd Ewrop.

 

44. Roedd y cynnig yn disgrifio’n arbennig broblemau gyda sgîl-ddal aelodau o deulu’r morfil, crwbanod y môr ac adar y môr wrth ddefnyddio rhwydi drifft a gorfodi annigonol ar reoliadau presennol yr UE, yn enwedig ym Môr y Canoldir. Yn ein cyfraniad rydym wedi dynodi ei bod yn hynod annhebygol bod unrhyw broblem o ran sgîl-ddal rhywogaethau agored i niwed ym mhysgodfeydd rhwydi drifft glannau Cymru.

 

45. Wrth ymateb i’r Comisiwn rydym wedi datgan bod yn rhaid bod rhanddirymiad priodol ar gyfer y DU ac Aelod-wladwriaethau eraill mewn sefyllfa debyg sy’n nodi ystod o feintiau rhwyllau llai ar gyfer rhwydi drifft na’r rhai a ddefnyddir yn y pysgodfeydd rhwydi drifft pelagig ar raddfa fawr, ynghyd ag elfen gylchfaol, o fewn parth 12 milltir yr Aelod-wladwriaethau er enghraifft.

 

46. Rydym yn disgwyl am ymateb y Comisiwn i’r wybodaeth ychwanegol hon yn awr. Gan fod angen cytundeb rhwng yr Aelod-wladwriaethau a’r Comisiwn a chan fod angen cael trafodaeth yn Senedd Ewrop, ni fydd y gwaharddiad arfaethedig yn cael ei weithredu am y tro.

 

 

 

 

Carl Sargeant AC

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Chwefror 2015